2014 Rhif 2653 (Cy. 261)

Y DRETH GYNGOR, CYMRU

Gorchymyn y Dreth Gyngor

(Anheddau Trethadwy) (Diwygio) (Cymru) 2014

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn yn cael ei wneud o dan adrannau 3(5)(b) a 113(1) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (“Deddf 1992”) ac mae’n diwygio Gorchymyn y Dreth Gyngor (Anheddau Trethadwy) 1992 (“Gorchymyn 1992”).

Mae adran 3 o Ddeddf 1992 yn diffinio “dwelling” at ddibenion darpariaeth y dreth gyngor ar gyfer Cymru a Lloegr. Mae erthygl 3 o Orchymyn 1992 yn ei gwneud yn ofynnol trin eiddo sengl sy’n cynnwys mwy nag un uned hunangynhaliol fel pe bai wedi ei ffurfio o’r un nifer o anheddau â’r nifer o unedau hunangynhaliol yn yr eiddo hwnnw. Diffinnir “single property” yng Ngorchymyn 1992 fel eiddo a fyddai, ar wahân i’r Gorchymyn hwnnw, yn un annedd o fewn ystyr “one dwelling” yn adran 3 o Ddeddf 1992.

Mae Gorchymyn 1992 wedi ei ddiwygio unwaith o’r blaen i ddarparu nad yw unedau hunangynhaliol ar wahân mewn cartref gofal yn cael eu hystyried yn anheddau ar wahân (gweler erthygl 3A o Orchymyn 1992, a fewnosodwyd gan Orchymyn y Dreth Gyngor (Anheddau Taladwy, Anheddau Esempt a Diystyru Gostyngiadau) (Diwygio) (Cymru) 2004).

Mae erthygl 3 o’r Gorchymyn hwn yn mewnosod erthygl 3B newydd i Orchymyn 1992. Effaith hyn yw fod yn rhaid trin lloches (o fewn ystyr y diffiniad o “refuge” a fewnosodir i erthygl 2 o Orchymyn 1992 gan erthygl 3 o’r Gorchymyn hwn) yng Nghymru fel un annedd at ddiben darpariaeth y dreth gyngor, hyd yn oed os yw’r eiddo wedi ei ffurfio o fwy nag un uned hunangynhaliol.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, paratowyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn. Gellir cael copi oddi wrth: Y Gangen Trethi Lleol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ. 

 


2014 Rhif 2653 (Cy. 261)

Y DRETH GYNGOR, CYMRU

Gorchymyn y Dreth Gyngor

(Anheddau Trethadwy) (Diwygio) (Cymru) 2014

Gwnaed                                   24 Medi 2014

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol  Cymru      1 Hydref 2014

Yn dod i rym                          22 Hydref 2014

Mae Gweinidogion Cymru([1]), drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 3(5)(b) a 113(1) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992([2]), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.(1)(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn y Dreth Gyngor (Anheddau Trethadwy) (Diwygio) (Cymru) 2014 a daw i rym ar 22  Hydref 2014.

(2) Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli

2. Yn y Gorchymyn hwn—

ystyr “Gorchymyn 1992” (“the 1992 Order”) yw Gorchymyn y Dreth Gyngor (Anheddau Trethadwy) 1992([3]).

 

Diwygio Gorchymyn y Dreth Gyngor (Anheddau Trethadwy) 1992

3. Mae Gorchymyn 1992 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn—

(a)     yn erthygl 2, ar ôl y diffiniad o “multiple property” mewnosoder—

“refuge” means a building in Wales which is operated by a person otherwise than for profit and is used wholly or mainly for the temporary accommodation of persons who have been subject to any incident or pattern of incidents of—

                       (i)  controlling, coercive or threatening behaviour;

                      (ii)  physical violence;

                     (iii)  abuse of any other description (whether physical or mental in nature); or

                     (iv)  threats of any such violence or abuse,

from persons to whom they are or were married, are or were in a civil partnership or with whom they are or were co-habiting;

(b)     yn erthygl 3, yn lle “article 3A” rhodder “articles 3A and 3B”;

(c)     ar ôl erthygl 3A, mewnosoder yr erthygl a ganlyn—

3B. A refuge must be treated as a single dwelling.

 

 

Leighton Andrews

Y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus, un o Weinidogion Cymru

24 Medi 2014



([1])           Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol, i’r graddau yr oeddent yn ymwneud â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672)  ac Atodlen 1 iddo. Trosglwyddwyd y swyddogaethau hynny wedi hynny i Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.

([2])           1992 p. 14.

([3])           O.S. 1992/549.